Llywodraeth Cymru
 Welsh Government

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr

 

 

 

 

Penodi Comisiynydd y Gymraeg

 

 

Dyddiad Cau: 17 Mehefin 2022

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheoleiddir gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus

 

 

 

 


 

Gwneud cais

 

Diolch am fynegi diddordeb ym mhenodiad Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”). Mae'r ddogfen hon yn rhoi manylion ynghylch rôl a chyfrifoldebau’r swydd a'r broses ddethol.

 

I wneud cais ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-643606d0a1d8/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/  

 

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y swydd wag ac yna cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais’ ar waelod y dudalen ar. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

 

Unwaith ichi gofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i adran 'Rhesymau dros ymgeisio' y ffurflen gais ar-lein.

 

Datganiad Personol

Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r holl feini prawf a nodir ym manyleb y person ar dudalen 7. Cewch chi benderfynu sut i gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut y mae eich gwybodaeth a'ch profiadau yn cyd-fynd â phob maen prawf, ac sy'n disgrifio eich swyddogaeth chi wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.

 

Ni ddylai'r datganiad personol fod yn hwy na dwy dudalen.

 

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu eich swydd ddiweddaraf a'ch dyddiadau yn y swydd hon. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol presennol neu flaenorol.

 

Amserlen Fras

Dyddiad cau:                                 17 Mehefin 2022

Llunio rhestr fer:                             Gorffennaf 2022

Cyfweliadau:                                  Wythnos yn cychwyn 12 Medi 2022

 

Datganiad am Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl o gefndir du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.

 

Cynllun Gwarantu Cyfweliad – Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynllun Cadarn o Blaid Pobl Anabl ac yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau. Mae'r cynllun hwn yn sicrhau cyfweliad i bobl sydd ag anableddau os byddant yn bodloni gofynion sylfaenol y swydd. Mae'r ffurflen gais hefyd yn eich galluogi i nodi unrhyw anghenion penodol sydd gennych neu offer penodol y gall fod ei angen arnoch os cewch wahoddiad i gael cyfweliad.

 

Ymholiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd y Gymraeg, cysylltwch ag Alan Jones:

 

E-bost: alan.jones4@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad A

 

Penodi Comisiynydd y Gymraeg

 

Cefndir

 

Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur") yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, yn creu system newydd i reoleiddio safonau'r Gymraeg, ac yn creu rôl Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd"). Mae’r Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.

 

Saith mlynedd yw hyd swydd y Comisiynydd ac nid oes modd ymestyn y cyfnod.

 

Cyd-destun y penodiad

 

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor, uchelgeisiol ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050. Mae'r strategaeth yn amlinellu’r uchelgais i gyrraedd y miliwn o ran nifer ein siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'r mathau o ymyraethau a chamau y mae angen i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill eu cymryd er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn. Mae’n glir, felly, bod angen dod o hyd i'r cydbwysedd iawn rhwng sicrhau twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ymyraethau i gynyddu defnydd o’r Gymraeg, a rheoleiddio.

 

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, i'w gweld yma:

 

https://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/cymraeg-2050-welsh-language-strategy/?skip=1&lang=cy

 

Ym mis Gorffennaf 2021 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer y cyfnod 2021 i 2026. Mae’r rhaglen yn manylu ar pa bolisïau bydd y Llywodraeth yn blaenoriaethu dros y cyfnod 2021 i 2026 i helpu wireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn bartner allweddol wrth i’r Llywodraeth weithio tuag at y targedau hynny. Mae’r Rhaglen Waith i’w gweld yma:

 

https://llyw.cymru/cymraeg-2050-rhaglen-waith-2021-i-2026-html

 

Prif feysydd cyfrifoldeb:

 

(i)            Hybu a hwyluso cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg a chyfleoedd eraill i ddefnyddio’r Gymraeg

 

(ii)          Gweithio tuag at sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg a bod unigolion yng Nghymru yn gallu byw eu bywydau drwy'r Gymraeg os ydynt yn dymuno

 

(iii)         Hyrwyddo arfer gorau a chynnig cymorth i gyrff i brif-ffrydio'r Gymraeg wrth ddatblygu polisi, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

(iv)      Bod yn gyfrifol am reoleiddio system safonau'r Gymraeg. Mae'n ofynnol i tua 120 o gyrff gydymffurfio â'r safonau ar hyn o bryd. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:

(v)       Yn dilyn cais gan unigolyn, ystyried ymchwilio i achosion honedig o geisio ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd a dyfarnu ar achosion yr ymchwilir iddynt

(vi)      Adolygu'n rheolaidd ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith o ran y Gymraeg a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol

(vii)      Cydweithio ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill fel y bo'n briodol

(viii)     Cyfrannu at y broses o benodi Panel Cynghori ac ymgynghori â'r Panel wrth gyflawni ei ddyletswyddau

(ix)      Llunio adroddiad 5-mlynedd yn canolbwyntio ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw. Rhaid gosod copi o'r adroddiad gerbron Senedd Cymru

(x)       Llunio adroddiad blynyddol yn cynnwys, ymhlith elfennau eraill, grynodeb o'r camau a gymerwyd wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd a'i gynigion ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn ganlynol. Rhaid gosod copi o'r adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru

 

(xi)      Comisiynu a gwneud gwaith ymchwil i sefyllfa'r Gymraeg

 

(xii)      Chwarae rôl weithredol o fewn y rhwydwaith rhyngwladol o gomisiynwyr iaith, a rhannu a gweithredu arferion gorau gwledydd eraill lle bo'n briodol 

 

(xiii)     Gwneud argymhellion neu sylwadau, neu roi cyngor, i unrhyw berson gan gynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw un o'i swyddogaethau

(xiv)   Arwain a rheoli Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a phenodi Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg

(xv)      Gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu a bod yn gyfrifol am sicrhau bod Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei rheoli'n effeithlon yn ariannol, a pharatoi cyfrifon gwariant ac amcangyfrifon o incwm a chostau yn ôl y gofyn.  Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol o tua £3miliwn

(xvi)    Creu a chynnal cofrestr o fuddiannau ar gyfer pob deiliad swydd perthnasol.

 

Manyleb y Person

 

Gofynion hanfodol

 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth allweddol ganlynol:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Gymraeg

 

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol. 

 

Ffeithiau allweddol am y swydd

 

Lleoliad:                                             Hyblyg. Er gwybodaeth, ar hyn o bryd, mae mwyafrif y staff y Comisiynydd yn gweithio yn swyddfeydd Caerdydd a Chaernarfon.

 

Ymrwymiad Amser:                          37 awr yr wythnos

 

 

Hyd y swydd:                                     Penodiad saith mlynedd fydd hwn, ac ni fydd modd ymestyn y cyfnod.

 

 

 

Cyflog:                                                Telir cyflog o ryw £95,000.  Caiff treth ac yswiriant gwladol eu tynnu o'r gyflog a chyfrennir at bensiwn.

 

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio

Os bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn perthyn i un o’r categorïau isod, bydd gofyn iddo ildio ei swydd cyn cael ei benodi'n Gomisiynydd y Gymraeg:

 

·         Aelod Seneddol; 

·         Aelod o Senedd Cymru;

·         aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

·         aelod o Dribiwnlys y Gymraeg;

·         aelod o Banel Cynghori'r Comisiynydd;

·         unigolyn a gyflogir gan unigolyn a nodir yn Atodlen 5 neu Atodlen 7 y Mesur, neu sy'n cynghori unigolyn o'r fath. I gael rhagor o fanylion, gweler y Mesur: http://www.legislation.gov.uk/cy/mwa/2011/1/contents/enacted

·         aelod o staff y Comisiynydd.

 

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan p'un a ydynt yn ymwybodol o unrhyw beth yn eu bywyd preifat neu broffesiynol a fyddai'n codi embaras iddyn nhw, i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, neu i Lywodraeth Cymru pe bai'n dod yn hysbys ar ôl eu penodi.

 

Gwrthdaro Buddiannau

Gofynnir ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro â rôl a chyfrifoldebau Comisiynydd y Gymraeg, neu a allai ymddangos fel pe baent yn gwrthdaro, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a safleoedd o awdurdod y tu hwnt i rôl y Comisiynydd.

 

Caiff unrhyw wrthdaro buddiannau ei drafod yn y cyfweliad.  Os cewch eich penodi, bydd gofyn ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

 

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl ichi ddilyn safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus gytuno â Chod Ymddygiad Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus. Mae'r ddogfen hon i'w gweld yn:

 

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf

 

 

Atodiad B

 

Y broses ddethol

 

Bydd y panel dethol yn asesu CV a datganiad personol pob ymgeisydd i benderfynu pwy sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y rôl orau, a phwy fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad. Bydd y panel yn dibynnu ar yr wybodaeth yn eich CV a'r datganiad i asesu a ydych yn meddu ar y sgiliau a'r profiad gofynnol. Sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol.

 

Y panel dethol fydd Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Craig Stephenson, Rhian Huws-Williams, a Delyth Jewell AS

 

Gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau a ddaw i law, efallai y bydd eich cais yn cael ei roi ar restr hir cyn cael ei roi i'r panel sy'n llunio rhestr fer i'w ystyried. Dylech fod yn ymwybodol felly ei bod yn bosibl na chaiff eich  cais ei ystyried yn llawn gan y panel cyfan mewn sefyllfa fel hon.

 

Rydym yn rhagweld y bydd y panel wedi penderfynu yn ystod Gorffennaf 2022 pwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn ystod mis Medi 2022.

 

Dim ond yr ymgeiswyr cryfaf y mae’r panel yn credu sydd wedi dangos eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodwyd yn adran manyleb y person orau fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fodd bynnag, os ydych wedi ymgeisio o dan y cynllun gwarantu cyfweliad, a'ch bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, cewch chithau hefyd eich gwahodd i gyfweliad.

 

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad ac nad yw’r dyddiad eisoes wedi'i nodi yn y pecyn gwybodaeth hwn, ein nod yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl ichi o ddyddiad y cyfweliad. Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, fe wnawn ymdrechu i aildrefnu ond efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd cyfyngiadau amser o fewn yr amserlen benodi neu argaeledd y panel dethol.

 

Fe gewch e-bost gan y system sef Penodi i roi gwybod ichi a ydych wedi eich gwahodd i gyfweliad ai peidio. Ein bwriad yw cynnal cyfweliadau yng Nghaerdydd.

 

Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y panel yn eich holi ynghylch eich sgiliau a'ch profiad ac yn gofyn cwestiynau penodol i asesu a ydych yn bodloni'r meini prawf a osodwyd ar gyfer y swydd ai peidio.

 

Bydd y Panel yn argymell enwau’r ymgeiswyr sy'n addas i'w penodi i'r Gweinidogion, a nhw fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gall Gweinidogion ddewis cyfarfod â'r ymgeiswyr hyn cyn gwneud penderfyniad. Cyn bod y penodiad yn cael ei gadarnhau, bydd yr ymgeisydd a ffafrir yn cael gwahoddiad i ymddangos mewn sesiwn cyn-penodi gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.  Bydd yr ymgeiswyr a gafodd eu cyfweld yn cael eu diweddaru wrth i’r broses fynd rhagddi.

 

Os byddwch yn llwyddiannus, cewch lythyr yn eich penodi’n Gomisiynydd nesaf y Gymraeg, a fydd yn cadarnhau telerau'r penodiad.

 

Os na fyddwch yn llwyddiannus yn dilyn eich cyfweliad, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen llawer o amser ac ymdrech er mwyn ymgeisio am rolau, ac felly mae rhoi adborth yn rhan werthfawr o'r broses. O ganlyniad, bydd y llythyr yn cynnwys manylion yr unigolyn y gallwch gysylltu ag ef i gael adborth ar eich cyfweliad a'ch cais, os dymunwch wneud hynny.

 

Ymholiadau a Chwynion

Os oes gennych gwestiynau am eich cais neu os ydych yn anfodlon ag unrhyw agwedd ar y broses recriwtio, cysylltwch â’r Uned Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.